Dweud y gwir yn blaen
By Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.
Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd.
I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch:
Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionservice
Cysylltwch â ni adoptcymru.com
Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd.
I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch:
Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionservice
Cysylltwch â ni adoptcymru.com
Latest episode
-
Y Bobl Ifanc Piau Hi
Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK… -
Mae Pawb yn Gallu Mabwysiadu
Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig? Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camsyniadau camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu… -
Help Llaw Yn Yr Ysgol
Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg? Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu.... -
Cariad a Thrawma
Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd? Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd... -
Cadw a Chreu Cysylltiadau
Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib? Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw.… -
Ein Taith Fabwysiadu
Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn? Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r… -
Cefnogaeth ôl fabwysiadu
Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig. -
Creu cysylltiad â fy mhlentyn
Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n… -
Wythnos gyntaf fy mhlentyn gartref
4. Yn y bodlen hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am yr wythnos gyntaf treulio’n nhw gyda’u plant a’r realiti eu bod nhw bellach yn rhieni. -
Y broses baru
3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?