Dweud y gwir yn blaen

Cadw a Chreu Cysylltiadau

Listen on

Episode notes

Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib?

Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o gyfathrebu gyda theuluoedd geni eu plant, ynghyd â theuluoedd maeth, ac am y ffordd maen nhw’n trin a thrafod disgwyliadau eu plant.

Mae Rhys yn sôn am gwrdd â mam biolegol ei fab a Rachel yn siarad am y ffaith bod rhiant un plentyn yn ymateb i’w llythyrau blynyddol, tra bod rhiant ei merch arall ddim yn gwneud a’r dolur mae hynny yn gallu achosi - ond pwysigrwydd y broses er gwaetha’ hyn. Mae Gwawr yn trafod cydnabod hanes a stori ei merched.