Dweud y gwir yn blaen

Ein Taith Fabwysiadu

Listen on

Episode notes

Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn?

Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o fabwysiadu plant a’u cyflwyno i’w cartrefi parhaol.

Maen nhw’n siarad am ddwyster y broses, dysgu amdanyn nhw’u hunain, addasu disgwyliadau, siom a gorfoledd y broses baru, trawma, a mwy.