Dweud y gwir yn blaen

Help Llaw Yn Yr Ysgol

Listen on

Episode notes

Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg?

Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu.

Ry’n ni’n clywed gan Rhys am y modd mae e wedi cyd-weithio gyda’r ysgol i wella profiad ei fab, mae Gwawr yn siarad am y pwysigrwydd o gyfathrebu ac estyn allan am gymorth lle bod angen ac mae Rachel yn sôn am ddewis yr ysgol iawn ar gyfer eich plentyn chi.