Syniadau Iach

Lledaenu a Graddfa

Listen on

Episode notes

Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn trafod sut mae goroesi’r rhwystrau y mae arloeswyr yn eu gwynebu wrth geisio ledaenu’u syniadau ar raddfa fawr. “Y rhwystrau i’r arloeswyr yw amser, neu creu amser, arian a sgiliau,” meddai.

Fe fydd yn sôn am raglen ddwys newydd- yr Academi Lledaeniad a Graddfa- lansiwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y cyd gyda’r Comisiwn Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, lle daeth tua hanner cant o arloeswyr Cymru a thu hwnt ynghyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Yn ôl Joe McCannon, un o sefydlwyr y Billions Institute, cwmni o’r Unol Daleithiau America oedd yn arwain y sesiynau, dim gweithio 10 gwaith yn fwy caled i gyrraedd 10 gwaith fwy o bobl sydd angen. Mae‘r cwmni wedi helpu sefydliadau mawr i feddwl yn wahanol wrth gyflwyno newidiadau ar raddfa eang.

“You have to really think very deliberately about how you tap into others and their creativity and their ideas and effectively deputize others to carry the work forward,” medd Joe McCannon.

Clywn ni hefyd gan rai oedd wedi mynychu’r Academi fel Dr Arfon Williams sydd wedi dechrau gweithio mewn ffordd gwahanol yn ei feddygfa yn Nefyn ac sydd am gyflwyno’r model hwn ar draws Cymru. “Be mae nhw’n gwneud yw mynd a chi allan o’ch comfort zone a gwneud ichi feddwl yn wahanol,” meddai.

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.