Syniadau Iach

Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

Syniadau Iach

Listen on

Episode notes

Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn.

Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn sgwrsio a Pryderi ap Rhisiart, rheolwr- gyfarwyddwr M-Sparc, parc gwyddoniaeth yng Ngaerwen, Ynys Mon i drafod y gwaith arloesol sydd wedi bod yn digwydd yno i fynd i’r afael a’r pandemig.

Mae’n son am amryw o brosiectau gafodd eu cyflawni’n gyflym iawn, gan gynnwys cynhyrchu cyfarpar PPE, dyfeisio teclyn i agor drysau gyda braich yn lle dwylo i atal lledaenu’r feirws a drons i’r heddlu.

Dywed Pryderi: “ Dwi mor lwcus i gael eistedd ynghanol hyn i gyd, gweld y bwrlwm a phobl yn cyd-weithio i gwffio’r pandemig.”

Ychwanegodd bod labordi yn yr Eidal wedi profi bod mwgwd gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth M-Sparc wedi profi’n effeithiol iawn yn erbyn y straen yma o Covid 19.

Mae Pryderi’n credu bod y pandemig, wedi arwain at ffordd newydd o gydweithio a chyflymu arloesedd.

“Mae’n dangos pwer yr ecosystem pan fo’r bobl yma i gyd yn tynnu efo’i gilydd, i’r un cyfeiriad. Gallwn ni ddysgu lot oddi wrth hynny wrth symud ymlaen,” meddai.
Gallwch ddarllen mwy am waith Pryderi ag M-Sparc yn ystod yr argyfwng Covid 19 yn ei flog yma (gellid lincio i blog Pryderi )

Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.