Syniadau Iach
By Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.
Latest episode
-
Dyfodol digidol y GIG
Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol. -
Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad?
Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod. -
A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru?
Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod. -
Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio
Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod. -
Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol?
Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod. -
Arloesedd yw’r allwedd i Gymru iachach - gydag Eluned Morgan AS
Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig. -
Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws
Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn...… -
Lledaenu a Graddfa
Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn… -
Arloesi Digidol
Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn... -
Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol…